Mae amseroedd aros unedau brys yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau gwaethaf erioed.

Dim ond 72.1% o gleifion wnaeth aros am lai na phedair awr ym mis Rhagfyr, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru.

Targed y Llywodraeth yw bod 95% cael eu gweld o fewn yr amser hynny, a dyw’r targed yna erioed wedi cael ei wireddu. 

Mae ffigurau hefyd yn dangos bod y nifer uchaf erioed wedi gorfod dros 12 awr am gymorth, sef 6,656 i gyd – targed y Llywodraeth yw y dylai neb aros mor hir â hynny.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi buddsoddiad £10m ychwanegol i helpu mynd i’r afael â’r pwysau – mae hynny ar ben £30m sydd eisoes wedi’i fuddsoddi. 

Ymateb gwleidyddol

Mae Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw’r amseroedd yn “annerbyniol”.

“Rydym yn gwybod bod mwy o bwysau ar y GIG yn y gaeaf, ond mae’r ffigurau yma’n dangos yn glir bod yr heriau bod yr heriau uned brys yn wynebu yn fwy na jest pwysau tymhorol,” meddai.

Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar faterion iechyd, wedi dweud bod Llafur wedi “methu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.

“Pob blwyddyn rydym yn cael esgus gwahanol ynghylch sut mae’r perfformiad gwael y tro hwn ‘heb gynsail’ ac yn ‘eithriadol’,” meddai. 

“Mae’r esgusodion yn newid, ond mae’r perfformiad yn aros yr un fath.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae gormod o gleifion yn treulio cyfnodau hir mewn adrannau brys yn aros am wely ysbyty,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Rydym am i’r Byrddau Iechyd weithio gyda phartneriaid trwy’r sustem ysbytai ac allan i’n cymunedau, ac mae £10m bellach ar gael i gefnogi gwelliant yn y maes yma.”