Mae ffigyrau’r farchnad lafur yn dangos bod diweithra yng Nghymru ar ei lefel isaf erioed, sef 46,000.

Mae hynny’n ostyngiad o 1.2 dros y chwarter ariannol ddiwethaf, a 1.1% dros y flwyddyn.

Ac mae cyfradd diweithdra Cymru yn 3.0%, sy’n is na cyfartaledd y Deyrnas Unedig, sef 3.8%

Dywed Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:  “Mae’r rhain yn set o ystadegau cryf iawn ar gyfer Cymru. 

“Mae miloedd o bobol wedi dod o hyd i waith yn ystod y chwarter blaenorol ac mae diweithdra yng Nghymru yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig. 

“Mae hyn yn dyst i’r gwaith caled y mae’r ddau lywodraeth yn ei wneud i ysgogi’n heconomi.”