Mae holl staff bar 10 Feet Tall yng Nghaerdydd wedi ymddiswyddo yn dilyn y cyhoeddiad fod yna gynlluniau i’w gau.

Cafodd staff wybod ddydd Gwener diwethaf (Ionawr 17) am y bwriad i gau’r bar ar Stryd yr Eglwys.

Ond mae’r cwmni sy’n berchen y bar yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol ymlaen llaw o gais cynllunio’r landlord.

Dywed y perchnogion nad yw penderfyniad y staff i ymddiswyddo “wedi helpu y sefyllfa argyfyngus hon”, a’u bod nhw’n awyddus i barhau i gyflogi staff ac i weithredu.

Maen nhw’n gofyn i aelodau staff gysylltu â nhw i drafod y mater, ac y bydd datganiad pellach maes o law.

Deiseb

Mae deiseb wedi’i sefydlu ar y we gan glwb comedi Tickles & Tarts er mwyn ceisio achub y lleoliad.

Mae’n dilyn cau lleoliadau comedi Buffalo a Gwdihŵ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae lleoliadau byw Caerdydd eisoes wedi dioddef ergyd enfawr dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i golli Buffalo, Gwdihŵ a nawr, wrth gwrs, 10 Feet Tall,” meddai’r ddeiseb.

“Nid dim ond llefydd i yfed a bwyta oedd y rhain, ond yn ganolfannau adloniant oedd yn gwneud Caerdydd yn lle cyffrous i fod.

“Llefydd oedd yn dod â cherddoriaeth fyw, comedi, y gair llafar ac yn bwysicaf oll, awyrgylch unigryw i’n dinas ryfeddol.

“Mewn amryw ffyrdd, mae Caerdydd ar i fyny ond os ydyn ni’n ildio i gadwyni o fwytai ac adeiladau swyddfa ofnadwy, nid Caerdydd i’r bobol fydd hi ond Caerdydd i’r corfforaethau a’r cyfoethogion.”