Y Cymro Luke Evans fydd yn chwarae’r prif gymeriad mewn cyfres ddrama newydd am lofruddiaethau pedwar o bobol yn Sir Benfro yn y 1980au.

Bydd y gyfres dair rhan, The Pembrokeshire Murders ar ITV, yn olrhain hanes y llofrudd John Cooper, a Luke Evans yn chwarae rhan Steve Wilkins, fu’n arwain ymchwiliad yr heddlu.

Hefyd yn serennu yn y gyfres fydd Keith Allen a fydd yn chwarae cymeriad John Cooper, ynghyd ag Owen Teale, Alexandria Riley, Caroline Berry, Oliver Ryan a David Fynn.

Dywed Luke Evans ei bod yn “fraint” cael chwarae’r cymeriad, ond ei fod hefyd yn “gyfrifoldeb enfawr”.

World Productions, cynhyrchwyr y cyfresi Line Of Duty a Bodyguard, fydd yn cynhyrchu’r gyfres dan arweiniad Simon Heath.

Nick Stevens yw awdur y gyfres sydd wedi’i seilio ar y llyfr Catching The Bullseye Killer gan Steve Wilkins a’r newyddiadurwr Jonathan Hill.

Cefndir

Ar ôl degawdau heb atebion yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Dyfed-Powys i ddau achos o lofruddiaethau dwbwl, aeth y Ditectif Uwch Arolygydd Steve Wilkins ati i edrych ar yr achos o’r newydd yn 2006.

Gan ddefnyddio technegau fforensig arloesol, daeth yr heddlu o hyd i olion DNA a ffibrau bach iawn i gysylltu’r llofruddiaethau ag achosion o fwrgleriaeth yn y 1980au a’r 1990au.

Roedd John Cooper eisoes yn y carchar ac yn dod i ddiwedd ei ddedfryd pan gafodd ei gysylltu â’r llofruddiaethau.