Fe fydd dyn 39 oed yn mynd gerbron llys heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 21), wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 74 oed â bwa saeth ym Môn.
Mae Terence Whall yn mynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug i wynebu cyhuddiad ei fod e wedi llofruddio’r cyn-ddarlithydd Gerald Corrigan yn ei gartref ar Ebrill 19 y llynedd.
Cafodd ei saethu â bwa saeth wrth iddo symud disgl lloeren ar do ei gartref ger Caergybi.
Mae Terence Whall hefyd wedi’i gyhuddo o gynllwynio â Darren Jones, 41, Martin Roberts, 34, a Gavin Jones, 36, i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae’r pedwar wedi’u cyhuddo o roi Land Rover Discovery ar dân ar Fehefin 3.
Mae’r pedwar yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd Gerald Corrigan ei daro yn rhan ucha’i gorff ac fe ddaeth y saeth o fewn trwch blewyn i daro’i galon a’i fraich dde.
Bu farw yn yr ysbyty ar Fai 11.
Bu’n gweithio fel darlithydd ffotograffeg a fideo cyn symud i Ynys Môn ar ôl ymddeol dros 20 mlynedd yn ôl.