Mae teulu bachgen tair oed a fu farw mewn tân mewn carafán yn Ffair Rhos ger Pontrhydfendigaid, Ceredigion wedi diolch “i bawb am eu cefnogaeth a geiriau caredig”.

Mewn datganiad dywedodd y teulu eu bod nhw’n diolch i bobl am barchu eu preifatrwydd wrth iddyn nhw alaru am eu mab, Zac Harvey, a fu farw yn y tân a’u bod nhw nawr yn canolbwyntio ar ei frawd Harley, 4 oed, sy’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Fe lwyddodd Harley a’i dad i ddianc o’r garafán. Mae’r tad, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Shaun Harvey, mewn cyflwr sefydlog.

Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i’r tân am 5.35 fore dydd Sul (Ionawr 19) a chafwyd hyd i gorff Zac yn y garafán.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos y tân ond yn dweud nad ydyn nhw’n ei drin fel un amheus.

Trasiedi “wedi bwrw’r ardal”

Yn gynharach dywedodd y cynghorydd lleol Ifan Davies bod y digwyddiad yn “drasiedi ddifrifol sydd wedi bwrw’r ardal yn ofnadw.”

Ychwanegodd: “Rydym ni’n byw mewn cymuned glos, ac i gyd yn cydymdeimlo’n fawr a’r teulu bach.”

Mae’r teulu’n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Ffair Rhos tuag adeg y tân sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.