Mae deiseb wedi cael ei lansio yn galw am yr hawl i ysgrifennu adolygiadau Cymraeg ar wefan TripAdvisor.

Mae’r ddeiseb wedi denu 30 o enwau hyd yn hyn.

Mae TripAdvisor wedi ennyn cryn feirniadaeth ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw’r wefan yn adnabod y Gymraeg ac felly mae’n gwrthod adolygiadau drwy gyfrwng yr iaith.

Mae’n debyg bod y cwmni angen gallu adnabod iaith adolygiad er mwyn medru dileu unrhyw sylwadau hiliol neu anghyfreithlon.

“Er nad ydym yn medru derbyn adolygiadau Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran TripAdvisor, “rydym yn chwilio o hyd am gyfleoedd i ehangu nifer yr ieithoedd.”

Deiseb

Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Bryn Howell-Pryce sy’n frodor o’r Drenewydd, ond wedi treulio blynyddoedd yn byw yn Rhydychen, cyn symud i Geredigion.

Ers symud yn ôl i Gymru i fyw mae o wedi bod yn dysgu Cymraeg.

Roedd wedi synnu nad oedd modd ysgrifennu adolygiadau Cymraeg ar y wefan Trip Advisor.

“Nes i sylweddoli nad oedd hi’n bosib creu adolygiad Cymraeg ar Trip Advisor, a meddwl fod hynny yn ridicilous, felly mi wnes i greu’r ddeiseb,” eglura Bryn Howell-Pryce.

“Does dim llawer o bobl y tu allan i Gymru yn sylweddoli bod Cymraeg yn iaith gyntaf i lawer o bobl.

“Mae’n rhaid i ni gymryd pob cyfle posib i ddangos i bobl pa mor bwysig ydi’r Gymraeg yma yng Nghymru.

Os am arwyddo’r ddeiseb dilynwch y linc yma.