Er bod Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud “cynnydd da” wrth fynd i’r afael a methiannau difrifol yn eu gwasanaethau mamolaeth mae “llawer mwy o waith i’w wneud” yn ôl adroddiad gan banel annibynnol ar ran Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw (Ionawr 20).

Rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018 daeth i’r amlwg bod 43 o ddigwyddiadau clinigol heb eu hadrodd, gan gynnwys marw-enedigaethau, marwolaethau cynenedigol a niwed posibl i famau a babanod newydd-anedig.

Er hyn, mae’r adroddiad yn hyderus y bydd modd i’r bwrdd iechyd gyflawni’r gwelliannau sydd wedi eu hargymell.

Mesurau arbennig

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei wneud yn destun mesurau arbennig fis Ebrill diwethaf ar ôl i adroddiad gan arbenigwyr iechyd nodi bod cleifion mewn peryg a bod staff “o dan bwysau sylweddol”.

Cafodd panel annibynnol ei sefydlu ar ôl i ymchwiliad y llynedd ddod o hyd i gyfres o fethiannau yn safon y gofal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gofyn am ymchwiliad allanol i ganfod graddfa a natur unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch cleifion, y rhesymau am y pryderon hyn, a pha gamau all fod angen eu cymryd i sicrhau gwasanaethau mamolaeth diogel ac effeithiol yn y dyfodol.

 

Beirniadu’r Gweinidog Iechyd

Ond mae llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC, wedi cyhuddo Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, o ochri “gyda’r rhai sy’n gyfrifol am fethiannau rheoli’r bwrdd iechyd”.

“Bron i flwyddyn yn ddiweddarach ers y methiannau difrifol ac erchyll yng Nghwm Taf a arweiniodd at farwolaeth babanod mae’r diweddariad hwn ar gynnydd yn tynnu sylw at waith sylweddol sydd eto i’w wneud,” meddai.

Er hyn dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn “amheus” a allai gwelliannau ddigwydd heb newidiadau i sut mae’r gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli, a bod yr adroddiad diweddaraf wedi “methu’n llwyr i ddal unrhyw reolwyr i gyfrif am y methiannau yn Cwm Taf.”

Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn sefydlu corff rheoleiddio proffesiynol ar gyfer rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd a fyddai’n golygu eu bod nhw ar yr un telerau a meddygon a nyrsys.

“Dyw hi ddim yn deg bod meddygon a nyrsys yn gallu colli eu swyddi am fethiannau ond nad oes unrhyw ganlyniadau pan mae rheolwyr yn methu.”