Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynigion newydd fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd yng Nghymru gael gwres ac ynni o ffynonellau ynni glân o 2025 ymlaen.

Mae cynigion yr ymgynghoriad, a gyflwynwyd gan Julie James, y Gweinidog Tai, yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Julie James: “Mae tai newydd a thai sydd eisoes wedi eu hadeiladu yn gyfrifol am tua phumed o allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig.

“Os ydym am gyrraedd ein targed uchelgeisiol, sef sicrhau gostyngiad o 95% yn ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, rhaid inni weithredu nawr.”

“Nid yn unig y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ond byddant hefyd yn helpu i sicrhau costau ynni isel”.

I fynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno safonau llym ar gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf.

Dyma rai o’r cynigion:

  • Gwella effeithlonrwydd ynni o 2020 ymlaen gan arwain at ostyngiad o 37% yn CO2 tai newydd, gan arbed £180 y flwyddyn ar filiau ynni i berchnogion tai (ar sail tai pâr).
  • Cael gwared ar danwyddau ffosil carbon uchel a symud at ffyrdd glanach o wresogi ein cartrefi.
  • Gwella effeithlonrwydd ynni drwy gyflwyno mesurau sy’n cyfyngu ar y gwres sy’n cael ei golli a lleihau’r galw am wres.
  • Gwella ansawdd aer drwy sicrhau bod aer yn cyrraedd ac yn gadael man neu fannau mewn adeilad gan ddarparu ansawdd aer da.