Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnal ymchwiliad ar ol i fachgen tair oed farw mewn tân mewn carafán ym mhentref Ffair Rhos ger Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.

Mae brawd y bachgen, sy’n bedair oed, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tan am 5.35 y bore ddydd Sul (Ionawr 19).

Mae’n debyg bod tad y bechgyn gyda’i ddau fab yn y garafán pan ddechreuodd y tân.

Yn ôl yr heddlu fe lwyddodd y tad a’r bachgen pedair oed i ddianc o’r garafán ond cafwyd hyd i gorff y bachgen tair oed yn y garafán.

Roedd y tad a’i fab wedi cael llosgiadau difrifol. Mae’r tad mewn cyflwr sefydlog ond mae ei blentyn arall mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

“Digwyddiad trasig”

Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos y tân.

Dywedodd y Ditectif Prif Uwch Arolygydd Steve Cockwell: “Mae ein meddyliau gyda’i deulu yn y cyfnod hynod o anodd hwn ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth iddyn nhw.

“Mae’r Adran Ymchwilio Troseddau yn cynnal ymchwiliad i achos y tân ac mae ystafell reoli arbennig wedi’i sefydlu yng ngorsaf yr heddlu yn Aberystwyth.”

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Ffair Rhos tuag adeg y tân sydd â gwybodaeth a allai helpu gyda’r ymchwiliad.

“Roedd hyn yn ddigwyddiad trasig ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i ddod ag atebion i’r teulu – mae eu byd wedi cael ei rwygo gan y digwyddiadau bore ma,” meddai Steve Cockwell.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.