Mae dynes yn yr ysbyty ar ôl cwympo wrth gerdded yn Ystradfellte.

Llithrodd hi ar lwybr ac anafu ei ffêr yn Sgwd yr Eira ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 18).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal a chafodd y ddynes ei chludo i ambiwlans ar wastad ei chefn cyn cael ei symud i’r ysbyty.

Mae’r tîm achub lleol wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth ar ôl iddyn nhw drin y ddynes ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Ambiwlans a Gwylwyr y Glannau.