Mae pobol yn cael eu hannog i ddathlu eu ffydd “heb ofn, erledigaeth a gwahaniaethu” ar Ddiwrnod Crefydd y Byd heddiw (dydd Sul, Ionawr 19).

Mae’n 70 mlynedd ers sefydlu’r diwrnod byd-eang sy’n cael ei gynnal ar drydydd dydd Sul mis Ionawr bob blwyddyn.

Ei nod yw tynnu sylw at yr elfennau sy’n gyffredin i bob ffydd, ac mae Aelod Cynulliad Ceidwadol yn annog pobol yng Nghymru i fanteisio ar y cyfle i ddathlu’r diwrnod.

“Trwy amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu cynnal o amgylch y byd, mae dilynwyr pob ffydd yn cael eu hannog i gydnabod y tebygrwydd rhwng pob ffydd,” meddai Mohammad Asghar.

“Pa bynnag crefydd ydych chi, Diwrnod Crefydd y Byd yw eich cyfle chi i rannu eich diwylliant ag eraill ac i fanteisio ar y cyfle i ddysgu gan bobol eraill am eu ffydd nhw.

“Dylai pawb gael yr hawl i arfer eu crefydd heb ofn, erledigaeth a gwahaniaethu.

“Dylai ffydd fod yn rhywbeth sy’n dod â phobol ynghyd ac nid yn eu gwthio nhw ar wahân, a dyna pam fy mod i’n hapus fod y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi Diwrnod Crefydd y Byd.”