Mae teithiwr o Gaerdydd i Reading yn dweud wrth golwg360 fod diffyg gwybodaeth yn cael ei chynnig i deithwyr ar ôl i Great Western Railway ohirio teithio i Loegr.

Mae Trystan Dafydd ar ei ffordd o Gaerdydd i Reading ac roedd e’n disgwyl i’w drên gyrraedd am 8.50 fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 19).

Wrth ymateb i’w ymholiad ar Twitter, dywedodd y cwmni fod “llinellau wedi cael eu cau”, a bod disgwyl i’w drên gyrraedd am 10.15yb, er y gall fod “oedi” ar ôl dal y trên yn ôl yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

Dywedodd wedyn nad oedd hynny’n “ddigon da”, a bod “teithwyr rhwystredig yn cael eu gadael yn yr oerfel (-1 gradd selsiws) heb wybodaeth nac opsiynau amgen”.

‘Lot o bobol eitha’ blin’

“Mae’r holl drenau sy’n mynd drwy dwnnel Hafren wedi cael eu canslo,” meddai Trystan Dafydd wrth golwg360.

“I gychwyn o’n i’n meddwl falla’ oedd o rywbeth i wneud efo’r ffaith fod o wedi rhewi bore ‘ma. Ond doedd hynna ddim byd i’w wneud efo fo.

“Dw i’n meddwl fod gwaith peiriannol sydd heb ei orffen mewn pryd, ac mae ’na knock-on effect efo’r trenau i gyd bore ’ma yn cael eu canslo.

“Roedd ’na lot o bobol eitha’ blin pan oedd y newyddion yn torri.

“Roedd y duty manager yn eitha’ clên efo ni, yn egluro fyddai’r trenau ddim yn rhedeg, ond doedd ’na ddim opsiynau na dim eglurhad, so oedd hynna’n gneud pethau’n waeth.”

Mae’n dweud nad oes yna ddiweddariad pellach ers ei neges wreiddiol ar Twitter.

“Dyna ydi’r schedule diweddara’ dwi wedi’i weld so dwi jyst yn disgwyl am ddiweddariad arall rwan.

Pan neshi gyrraedd y stesion tua 7.45 oedd y duty manager wrth y gatiau ac roedd ‘na un person wrth y ddesg tocynnau ond doeddan nhw ddim yn gallu cynnig dim byd, dim alternative option.

“Oeddan nhw jyst yn deud bo nhw ddim ond yn cael gwybod fel mae’r rheiny sy’n teithio’n cael gwybod, so doedd gynnon nhw ddim llawer i’w gynnig yn anffodus.”

Pawb yn yr un sefyllfa

“Pan o’n i’n cyrraedd, roedd rhyw ugain o leia’ yn yr un sefyllfa â fi, ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ac yn wyndran pam fod pethau fel oeddan nhw,” meddai wedyn.

“Roedd rhai yn gofyn oedd o’n werth dreifio i Fryste a dal trên yn fan’na neu os oedd bysus yn cael eu cynnig i fynd â ni yna ond doedd ’na ddim llawer o wybodaeth yn cael ei chynnig, yn anffodus.”

Wrth ymateb i’w negeseuon ar Twitter, dywed Great Western Railway fod modd hawlio iawndal os yw’r trên yn cyrraedd pen y daith fwy na 15 munud yn hwyr.