Mae’r heddlu’n pryderu fod rhwydweithiau trenau a bysiau yn y gogledd yn cael eu defnyddio’n helaeth gan gangiau o droseddwyr ‘County Lines’ o Lerpwl i ddosbarthu cyffuriau.

Cafodd gorsafoedd Bangor, Bae Colwyn a’r Rhyl eu targedu mewn cyrch ar y cyd gan blismyn o Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ddoe.

Cafodd wyth o warantau eu gweithredu hefyd mewn tai yn siroedd Conwy a Dinbych, a chafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o fod â bwriad o gyflawni cyffuriau. Mae cyffuriau, arfau miniog a ffonau symudol wedi cael eu hatafaelu fel rhan o’r cyrch.

Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Sacha Hatchet:

“Mae’r cyrch heddiw gyda chydweithwyr o Heddlu Glannau Mersi a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn tanlinellu’r ffaith nad oes ffiniau pan ddaw’n fater o erlyn y rheini sy’n gwerthu cyffuriau, neu’n defnyddio eraill i wneud hynny.

“Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad wrth gyflawni’r cyrchoedd hyn. Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn aelodau bregus o gymdeithas a all fod ar drugaredd y gangiau troseddol hyn, a byddwn yn ymdrechu i wneud gogledd Cymru y lle mwyaf diogel ym Mhrydain.’