Mae’r gwasanaeth prawf dan y lach yn sgîl llofruddiaeth dyn ifanc yn ne Cymru.
Cafodd Conner Marshall, 18, ei guro i farwolaeth gan David Braddon ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.
Roedd y llofrudd yn cael ei oruchwylio yn y gymuned ar y pryd, a hynny ar ôl cael ei farnu’n yn euog o droseddau yn ymwneud â chyffuriau ac ymosod ar swyddog yr heddlu.
Mewn Cwest ym Mhontypridd heddiw, dywedodd y Crwner cynorthwyol, Nadim Bashir, bod gweithiwr achos David Braddon wedi’i “gorlethu” â gwaith.
Dywedodd hefyd bod Kathryn Oakley wedi derbyn sawl gwaith y gallai fod wedi gwneud mwy wrth oruchwylio’r llofrudd.
Roedd y gweithiwr achos yn newydd i’w rôl, meddai, ac ategodd bod y gwaith o gadw llygad a chynorthwyo hithau yn “hollol annigonol”.