Mae’r gân ‘Yma O hyd’ wedi cael sylw mawr yr wythnos hon am gyrraedd brig siartiau lawrlwytho caneuon Prydain, gyda gwleidyddion yn trafod camp Dafydd Iwan yn y Senedd yng Nghaerdydd a Senedd Prydain yn Llundain.

Ac mae’r canwr wedi datgelu wrth golwg360 bod côr o Norwy yn perfformio fersiwn o ‘Yma O Hyd’, yn dilyn ymweliad ag Aberystwyth y llynedd.

Aeth arweinydd y côr, Egil Hene Stran, ati i gyfieithu’r gân i Norwyeg ar ôl i’w gôr ei chanu gyda Chôr Cochion a Chôr Heddwch Pales yng nghanolfan Morlan Aberystwyth.

Roedd y côr o Norwy “wrth eu boddau gyda’r gân,” meddai Egil Hene Stran, “ond pan wnaethon ni ddysgu ystyr y geiriau fe gwympon ni hefyd mewn cariad â’r gân.”

Dywedodd Dafydd Iwan wrth golwg360 fod y “gân fel petai’n taro’r nodyn, gan ddod â phlant a phobl o bob oed, o bob cwr, ynghyd.”

Mae’r gân wedi ei chyfieithu i’r Llydaweg hefyd ac wedi “crwydro tipyn” yn ôl Dafydd Iwan, sy’n edrych ymlaen yn arw i glywed y fersiwn Norwyeg.

“Yr hyn sy’n ddifyr yn achos Norwy yw bod yr awdur wedi addasu’r cyfeiriadau hanesyddol i hanes Norwy, a’i defnyddio fel cân sy’n berthnasol i Norwy a phob gwlad fach drwy’r byd,” meddai.

“Mae pob iaith leiafrifol yn yr un sefyllfa mewn gwirionedd. Mae’n help i bawb ohonom i wybod nad yden ni ar ein pen ein hunain.”

 “Dydyn ni ddim yn difaru sefydlu Apton o gwbl”

Yr wythnos hon daeth yn amlwg bod unig wasanaeth ffrydio cerddoriaeth Cymraeg mewn trafferth ariannol.

Sain wnaeth sefydlu’r gwasanaeth ffrydio Apton yn 2016 ac mae’r cwmni wedi dweud ei bod yn “annhebygol iawn” y bydd y gwasanaeth yn parhau heb arian o’r pwrs cyhoeddus.

Mae dros 10,000 o draciau gan artistiaid Cymraeg  ar gael ar Apton, ac mae Dafydd Iwan – un o sylfaenwyr gwreiddiol Cwmni Recordiau Sain – yn falch o’r gwasanaeth.

“Dydyn ni ddim yn difaru sefydlu Apton o gwbl, mae’n bwysig fod gennym ni lwyfannau Cymreig,” meddai wrth golwg360.

Y dyfodol

 Cyhoeddodd Dafydd Iwan ei albym ddiwethaf, Dos i Ganu, yn 2009.

Ac mae wedi dweud wrth golwg360 nad yw yn bwriadu recordio caneuon newydd yn sgîl llwyddiant ‘Yma O Hyd’.

Ond bydd yn parhau i berfformio yn fyw ac ymweld ag ysgolion i drafod ei ganeuon a’r hanes y tu cefn iddyn nhw.