Mae mwyafrif helaeth o bobol am i ysgol newydd yng Nghaerdydd fod yn uniaith Gymraeg, yn ôl adroddiad.

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddi i godi miloedd o dai newydd yng ngogledd orllewin y brifddinas, ac mae disgwyl i ysgolion gael eu codi yn sgil y datblygiad.

Yn 2018 dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, y byddai “ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr”.

Ond yn dilyn hyn, penderfynodd cabinet y Cyngor ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd – gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg.

Bellach mae canlyniadau’r adroddiad wedi’u cyhoeddi, ac mae’n glir bod cefnogaeth yn gryfach at ysgol uniaith Gymraeg.

Canlyniadau

Mae’r adroddiad gan swyddogion Cyngor Caerdydd yn dangos mai dim ond 15 (8%) o’r 180 wnaeth ymateb oedd o blaid ysgol dwy ffrwd – yn hytrach nag ysgol uniaith Gymraeg neu Saesneg.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod y Cyngor wedi  derbyn deiseb gyda 876 llofnod arni hi’n galw am ysgol benodedig Gymraeg.

Yng ngogledd orllewin Caerdydd – ardaloedd Creigiau, Sain Fagan a Phentyrch – mae rhai o’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas, gyda bron i chwarter y boblogaeth yn medru’r iaith.

“Llawer iawn mwy o gefnogaeth”

“Mae’n amlwg o’r adroddiad bod llawer iawn mwy o gefnogaeth ymysg y cyhoedd i ysgol benodedig Gymraeg nag un ddwyieithog,” meddai Mabli Siriol o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni’n galw ar Arweinydd y Cyngor felly i gadw at ei air i agor ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog.

“Wedi’r cwbl, dyna sydd ei hangen os yw’r Cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni’n cyrraedd miliwn o siaradwyr.”