Mae un o gymeriadau lliwgar byd eisteddfodau lleol wedi marw yn 84 oed.

Fe dreuliodd T Graham Williams (Cefnfab) ei yrfa dan ddaear, cyn dechrau perfformio gwaith Dylan Thomas mewn nosweithiau talent a gwyliau ledled gwledydd Prydain, ac yna dod yn eisteddfodwr ac yn enillydd cadeiriau.

Dros gyfnod o dros 30 mlynedd, fe hawliodd 86 o gadeiriau am gerddi rhydd – pob un ohonyn nhw yn nhafodiaith Cwmtawe  – ac yn trafod sawl agwedd ar fywyd yr ardal honno. Roedd hefyd yn lluniwr straeon byrion, ac yn arweinydd brwd Cylch Ysgrifennu Rhiwfawr yn trafod llenyddiaeth a hunaniaeth.

Roedd yn gredwr mawr yn y dosbarth nos, gan iddo ef ei hun “stryglo” meddai i gael addysg, wedi i “bobol ddoeth” benderfynu mai gwell fyddai iddo ennill ei fywoliaeth fel glöwr.

Roedd yn ddiolchgar am y cyfle a ddaeth – trwy nosweithiau ‘As you please’ clybiau’r gweithwyr ledled de Cymru – i ddatblygu ei ddawn yn perfformio gweithiau ei arwr mawr, Dylan Thomas. Math ar sioeau talent oedd yr ‘As you please’ yr oedd cystadleuwyr yn gallu dod iddyn nhw yn syth o’u gwaith, fel ag yr oeddent, i gystadlu, ac roedd y gwobrau’n hael.

Er ei fod yn gymeriad cystadleuol iawn, roedd hefyd yn ddiffuant yn ei awydd i weld y Gymraeg yn ffynnu yn ei fro. Fe arbrofodd yn y grefft o gyfuno cerddi a fideo – gan ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1992 am raglen oedd yn gwrthwynebu hagrwch a llygredd gweithiau glo brig.

Fe ddaeth Cefnfab yn aelod o Orsedd y Beirdd yn 2006 ar sail ei gyfraniad i fyd yr eisteddfodau bychain yng Nghymru.