Mae gyrrwr bws mini a darodd a lladd bachgen saith oed yn ardal Trefynwy wedi cael ei ryddhau gan yr heddlu dan ymchwiliad.

Cafodd y dyn 45 oed o Gaerloyw ei arestio ar amheuaeth o yrru’n ddiofal ar ffordd A466 yn Osbaston ddydd Llun (Ionawr 13).

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.

Mae Samuel Barker yn cael ei ddisgrifio gan ei deulu fel “plentyn hapus, gweithgar oedd yn hoffi teganau ceir, dringo coed, yr awyr agored ac yn enwedig sgïo a lifftiau sgïo”.

Mae’r teulu’n dweud bod eu Cristnogaeth yn eu cynnal.

Mae wedi’i ddisgrifio gan Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Osbaston fel “rhan fawr o fywyd yr ysgol”.