“Brwydr fach yn y darlun mawr” yw’r ymgyrch sydd ar droed i sicrhau parhad emoji baner Llydaw ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl Aneirin Karadog.

Mae pobol yn defnyddio’r hashnodau #emojibzh a #GwennHaDu, sef yr enw Llydaweg ar y faner, i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch i sicrhau bod yr emoji ar gael ar ddyfeisiau sy’n caniatáu’r defnydd o emojis.

Ac yn ôl y bardd, perfformiwr, darlledwr ac ieithydd, sy’n hanner Llydawr a fu’n byw yn y wlad y llynedd, mae’n hollbwysig i ieithoedd lleiafrifol gael presenoldeb ar-lein.

“Roedd yr Athro David Crystal yn sôn fod angen i ieithoedd lleiafrifol gael presenoldeb ar-lein os oedden nhw am oroesi,” meddai wrth golwg360.

“Mae Prifysgol Bangor wedi gwneud lot o waith ar iaith a thechnoleg. Dw i’n meddwl fod e’n bwysig i iethoedd lleiafrifol, Celtaidd neu’r tu hwnt i hynny, gael presenoldeb ar-lein.

“Hyd yn oed yn fy nghenedlaeth i, ond yn sicr y genhedlaeth sy’n ifancach na fi, os nag yw rhywbeth i’w weld ar-lein, dyw e ddim yn bodoli o gwbl. 

“Fi’n credu bod cael y presenoldeb yna’n bwysig. Ond eto, brwydr fach yw hi yn y darlun mawr.”

‘Yr ymgyrch ddim jest yn beth ieithyddol’ 

Mae’n dweud bod yr ymgyrch, y tu hwnt i’r frwydr ieithyddol, yn cynnig cyfle i bobol nad ydyn nhw’n medru’r iaith i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch ehangach am hawliau.

“Fi’n credu bod Llydawyr Llydaweg yn fwy tebygol o ddefnyddio’r geiriau Llydaweg am y faner, sef Gwenn Ha Du na’r hashnod #emojibzh.

“Ond beth sy’n ddiddorol yw bod Llydawyr di-Lydaweg, felly Llydawyr uniaith Ffrangeg sy’n falch o’u gwlad, hefyd yn cefnogi’r ymgyrch i gael presenoldeb a gallu denu i’r hunaniaeth Lydewig, fel petai.”

Hyd yn oed i bobol a busnesau nad ydyn nhw’n medru’r iaith, mae’r faner i’w gweld yn aml yn Llydaw, meddai.

“Mae’r carlwm, sef y symbol sydd ar y faner, yn rhywbeth cyson ar fwydydd Llydewig, ar fusnesau Llydewig ac mae ’na’r lliwiau du a gwyn. 

“Mae lot o hunaniaeth docenistaidd, efallai – y defnydd o eiriau Llydaweg ar fusnesau neu ar siopau – heb fod pobol ag unrhyw glem am yr iaith. Mae ’na lot o falchder. 

“Yn gyson maen nhw wedi ffeindio bod 18% o bobol Llydaw o blaid annibyniaeth. Does dim 18% yn siarad yr iaith. Mae’r balchder yn y Llydaweg, felly, yn rhywbeth y tu hwnt i ffiniau ieithyddol.”

Gwlad neu ranbarth?

Yn ôl Aneirin Karadog, mae Llydaw yn dal i gael ei hystyried gan rai Ffrancwyr yn rhanbarth yn hytrach na gwlad sy’n sefyll ar ei phen ei hun.

Mae hynny, meddai, o ganlyniad i ymdrechion gwladwriaeth Ffrainc i’w hawlio hi yn rhan o’r wlad honno.

“Un peth o’n i’n sylwi am y fideo sy’n lledu er mwyn helpu ymgyrch emoji baner Llydaw yw bod lot o bobol yn y fideo yn cyfeirio at Lydaw fel rhanbarth. 

“Mae’n un arwydd o lwyddiant gwladwriaeth Ffrainc, sy’n troi hen wlad Llydaw i fod yn rhanbarth yn Ffrainc. Mae’n wladychol ar ran y Ffrancod ac yn arwyddo o’u llwyddiant nhw i ddodi stamp Ffrengig ar bob gwlad. 

“Mae’r un peth yn wir am Occitania, Corsica a’r hen wledydd cryf yma oedd yn annibynnol ’slawer dydd. Maen nhw nawr yn rhanbarthau Ffrainc. 

“Ond mae ’na falchder mawr yn y rhanbarth Ffrengig fodern a elwir yn Llydaw.”

‘Y Gorllewin Mawr’

Mae’n dweud bod Llydaw yn wynebu bygythiad o du Ffrainc ers tro.

“Mae ’na fygythiadau wedi bod erioed i ddileu Llydaw o’r map Ffrengig, a chreu endid newydd o’r enw Le Grand Ouest, y Gorllewin Mawr, sydd yn cynnwys unrhyw beth i’r gorllewin o Baris mewn ffordd. 

“Ro’n nhw bron â chreu rhanbarth swyddogol fyddai ar y map Ffrengig yn dileu yr enw Llydaw. 

“Byddai lot o gonan ac ymgyrchu i gadw’r hunaniaeth Lydewig a Llydaw ar y map, yn sicr.”

Cymharu Llydaw a Chymru

Mae’n dweud bod modd cymharu sefyllfa Llydaw â Chymru, ond fod ymdrechion Ffrainc i wladychu Llydaw yn fwy llwyddiannus o lawer nag ymdrechion Prydain i wladychu Cymru.

“Mae Ffrainc wedi gwneud jobyn llawer gwell na Phrydain o gymhathu ei gwahanol ranbarthau i deimlo bo nhw’n rhannau bach o un endid mawr a elwir yn La France. 

“Mae Paris yn eitha’ canolog, does dim llawer o ddatganoli grym ma’s i’r rhanbarthau. Mae Paris yn gyson yn ofn hynny. 

“Roedd  ’na achos babi bach yn ddiweddar o’r enw Fañch, sy’n golygu Francois yn Llydaweg. Dyw’r symbol bach sydd i’w weld uwchben yr ‘n’ yn Llydaweg ac yn Sbaeneg ddim i’w weld yn Ffrangeg. 

“Yn ddiweddar, mae’r wladwriaeth Ffrengig wedi gwrthod rhoi tystysgrif geni i’r babi bach achos bod e’n sillafu ei enw â llythyren sy’n wrthun i’r Ffrangeg. Felly maen nhw hyd yn oed yn ofni babi bach sydd ag enw gwahanol Llydewig! 

“Dyna faint y grym ond hefyd y braw mae gwladwriaeth Ffrainc yn ei gael o unrhyw symbolau cenedlaethol. 

“Bydden i’n dychmygu, ar y cyfan, fod Ffrainc ddim yn ffwdanu ryw lawer i gefnogi’r ymgyrch yma i gael emoji achos fod e’n mynd i hybu’r ymgyrch barhaus sydd am annibyniaeth Lydewig er bod yr ymgyrch yn wan yn y bôn achos fod cymaint o Lydawyr yn teimlo’u bod nhw’n Ffrancod.”