Mae siopwyr Bangor yn cael eu hannog i gefnogi siopau’r stryd fawr yn dilyn y newyddion y bydd y stryd ynghau tan y Pasg yn dilyn tân difrifol.

Cafodd adeiladau 164 ac 166 y Stryd Fawr – ble’r oedd y bwyty Noodle One a’r siop ddillad Morgan – eu difrodi yn sgil tân ar Ragfyr 17, a bellach mae sgaffaldau wedi’u gosod ar y briffordd i ddiogelu’r strwythurau.

Bydd gwaith yn cael ei gynnal i sefydlogi’r adeiladau, a bellach mae dargyfeiriad traffig mewn grym. Mae disgwyl i hyn bara tan y Pasg.

Mae pob un o fusnesau’r stryd fawr yn parhau ar agor, ac mae modd gyrru ar ran uchaf y stryd trwy Lôn Pobty o hyd.

Fe fu Hywel Williams a Siân Gwenllian, Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad y ddinas, yn ymweld â busnesau lleol er mwyn rhoi cyngor iddyn nhw am geisiadau ar gyfer rhyddhad ar drethi ac i ddosbarthu llythyrau yn nodi sut mae modd cysylltu â’r Swyddfa Brisio sy’n gyfrifol am y rhyddhad.

‘Pryderon dealladwy’

“Fe dreulion ni brynhawn ddoe yn siarad â pherchnogion busnesau ar stryd fawr Bangor, sy’n bryderus, yn ddealladwy, am effaith cau’r ffordd ar fasnach a’r problemau cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“O’n trafodaethau, rydym yn deall bod rhai manwerthwyr eisoes yn y broses o wneud cais am ryddhad ardrethi drwy’r Swyddfa Brisio (VOA), ac rydym yn annog eraill sy’n ystyried hyn i wneud hynny fel cam cyntaf.’

“Hoffwn ddiolch i Gyngor Gwynedd am eu hymateb adeiladol ac am gynnig cefnogaeth ychwanegol i fusnesau nad ydynt efallai’n derbyn yr ymateb a ddymunir gan y Swyddfa Brisio.

“Mae stryd fawr Bangor yn allweddol wrth ddod â phobl ynghyd, gyda’r arlwy o siopau annibynnol yn gweithredu fel man cyfarfod i ffrindiau a theuluoedd ac yn cefnogi swyddi i bobl leol.

“Dyna pam mae’n rhaid i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i annog siopwyr i gefnogi’r busnesau annibynnol rydyn ni i gyd yn eu hadnabod ac yn eu gwerthfawrogi.

“Rwan yn fwy nag erioed, mae angen ein cefnogaeth ar fanwerthwyr y stryd fawr. Rydym yn annog pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ddod i stryd fawr Bangor, cefnogi masnachwyr lleol a’u helpu drwy’r amser anodd hwn.”