Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi pleidleisio o blaid ceisio cau ysgolion Talwrn a Bodffordd yn dilyn pleidlais agos iawn.

Roedd degau o gefnogwyr yr ysgolion yn y siambr i wylio’r drafodaeth am ddyfodol y ddwy ysgol, gyda saith aelod o bwyllgor craffu’r cyngor o blaid eu cau a phump o blaid eu cadw ar agor.

Bydd y Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ddydd Llun nesaf (Ionawr 20) a fyddan nhw’n bwrw ati i gynnal ymgynghoriad.

Fis Mai’r llynedd, tynnodd y cyngor ei gynigion i gau’r ysgolion yn ôl ar ôl i’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams ymyrryd. 

Mae’r cod trefniadaeth ysgolion newydd, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2018, yn sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. 

Mae Ysgol Bodffordd yn rhif un ar restr ysgolion gweledig sydd i fod i gael eu gwarchod yn ôl cod Llywodraeth Cymru. Mae Ysgol Bodffordd dros gapasiti ac Ysgol Talwrn o fewn 8% i gapasiti.

Galw am bwyllo cyn gwneud penderfyniad

Yn dilyn y bleidlais, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ynys Môn i oedi a cheisio consensws cyn gwneud penderfyniad pellach ar ddyfodol y ddwy ysgol.

“Yn dilyn y ffaith bod pleidlais mor agos a diffyg cytundeb yn y pwyllgor craffu heddiw ar y cynigion i gau’r ysgolion ffyniannus hyn, rydyn ni’n galw ar y pwyllgor gwaith i beidio â symud ymlaen gyda’r cynigion,” meddai Ffred Ffransis.

“Yn hytrach, dylen nhw ddefnyddio’r cyfnod o chwe wythnos i greu consensws. 

“Mae cytundeb bod angen buddsoddiad yn Llangefni, ond mae hefyd cefnogaeth sylweddol i’r ysgolion pentrefol ym Modffordd a Thalwrn. Mae angen defnyddio’r cyfnod yma i greu consensws.

“Yn anffodus, gan fod Cyngor Môn wedi gwneud yn glir eu bod nhw’n ceisio pob dull i sicrhau eu bod yn cau’r ysgolion, mae’n anochel bydd cwyn yn erbyn y Cyngor ar ddiwedd y broses am beidio â chydymffurfio â’r cod cenedlaethol. 

“Bydd hyn yn gohirio’n fwy eto’r buddsoddiad sydd ei angen yn Llangefni ac yn parhau’r ansicrwydd i gymunedau Bodffordd a Thalwrn.”