Mae Prifysgol Aberystwyth yn gobeithio y bydd y gwaith o adnewyddu’r Hen Goleg wedi cael ei gwblhau erbyn 2022/23, wrth i’r Brifysgol ddathlu ei ben-blwydd yn 150 oed.

Mae’r Brifysgol wedi sicrhau £16 miliwn ar gyfer y prosiect, £10 miliwn o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, y ogystal â £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £3m o gronfa Ewropeaidd.

Agorodd yr Hen Goleg yn 1872 ond erbyn i’r Brifysgol symud i gampws newydd yn y 1960u roedd yr adeilad “fwy na heb yn ddiangen”.

Cyfanswm amcan gost yr ailddatblygiad yw tua £27m, ac mae’r Brifysgol yn ystyried ffynonellau eraill o gyllid i’r prosiect gan gynnwys ail gam ei hapêl mawr i godi arian.

“Bydd prosiect yr Hen Goleg yn adfer ac yn creu pwrpas newydd i un o adeiladau hanesyddol pwysicaf y genedl ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn creu canolfan bwysig ar gyfer diwylliant, dysgu a menter,” meddai Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Dywed Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Wrth i’r Brifysgol agosáu at ei phen-blwydd yn 150 oed, gall yr Hen Goleg gynnig etifeddiaeth barhaol fydd yn hyrwyddo ei threftadaeth ac yn edrych i’r dyfodol yn hyderus.”