Bydd gweithiwr gofal preswyl i blant o Sir y Fflint yn ymddangos gerbron gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru yr wythnos hon wedi’i gyhuddo o ymddwyn yn amhriodol.

Mae Andrew Cheers wedi ei gyhuddo o weiddi ar gydweithiwr tra roedden nhw mewn car gyda pherson ifanc a oedd yn cael ei ffrwyno a bygwth y person ifanc.

Hefyd cyhuddir Andrew Cheers o ddweud celwydd yn ddiweddarach am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad.

Bydd y gwrandawiad  yn cael ei gynnal o 9.30am ar Ionawr 15 yng Ngwesty’r Beaufort Park yn yr Wyddgrug.