Mae’r gwasanaethau brys yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wrth i wyntoedd cryfion o hyd at 80mya achosi trafferthion ar draws Cymru.

Yn ôl Western Power mae hyd at 1,600 o dai wedi bod heb gyflenwad trydan am gyfnod yn ardal Aberteifi a Chastell-newydd Emlyn yng Ngheredigion.

Mae’r A4086 wedi cau rhwng Cibyn a Phontrug ger Caernarfon ar ôl i goeden ddisgyn ac roedd coeden hefyd wedi syrthio ar gar ym Mhontnewydd ger Caernarfon gan dynnu’r ceblau trydan a ffon i lawr. Fe fydd y lon ynghau am hyd at 24 awr.

Yn ôl Cyngor Gwynedd roedd tair ysgol wedi gorfod cau heddiw (Dydd Llun, Ionawr 13). Doedd dim cyflenwad trydan yn Ysgol Bontnewydd, a dim cyflenwad dwr yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol Bro Lleu ym Mhenygroes.

Mae cyfyngiadau cyflymder o 30 milltir yr awr ar Bont Britannia ac mae Heddlu’r Gogledd yn cynghori  beiciau, beiciau modur a charafanau i osgoi’r bont ond mae ar agor i gerbydau eraill. Mae cyfyngiadau cyflymder hefyd ar Bont Cleddau yn Sir Benfro ac ar yr  M48 ger Pont Hafren yn y de.

Fe fu oedi hefyd i wasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae’r RNLI yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus iawn ar hyd y glannau gan fod y tonnau yn fawr iawn.

Mae rhybudd melyn o wyntoedd yn parhau mewn grym ar draws Cymru.