Mae rhagolygon yn awgrymu y bydd rhai ardaloedd o ogledd Gymru yn profi gwyntoedd cryfion hyd at 70 milltir yr awr dros y penwythnos.

Bydd rhybudd tywydd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym o dri bore dydd Sadwrn hyd at chwech y nos ar yr un diwrnod.

Mae disgwyl i drigolion Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn brofi gwyntoedd rhwng 50 a 60 milltir yr awr – ond mae disgwyl i hynny gynyddu ar diroedd uwch.

Mi allai’r gwyntoedd achosi problemau i deithwyr yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio, ac mae posibiliad bach y gallai adeiladau gael eu difrodi.