Bydd rhan o Stryd Fawr Bangor yn parhau ar gau i geir am “nifer o wythnosau” yn sgil tân mewn adeiladau yno’r llynedd.

Cafodd adeiladau 164 ac 166 y Stryd Fawr – ble’r oedd y bwyty Noodle One a’r siop ddillad Morgan – eu difrodi yn sgil tân ar Ragfyr 17, a bellach mae sgaffaldau wedi’u gosod ar y briffordd i ddiogelu’r strwythurau.

Bydd gwaith yn cael ei gynnal i sefydlogi’r adeiladau, a bellach mae dargyfeiriad traffig mewn grym. Mae disgwyl i hyn bara tan y Pasg.

Mae pob un o fusnesau’r stryd fawr yn parhau ar agor, ac mae’n dal modd gyrru ar ran uchaf y stryd trwy Lôn Pobty.

Cwblhau’r gwaith

“Yn anffodus … mae ein peirianwyr strwythurol wedi cadarnhau nad oes unrhyw ffordd y gellir cwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel heb gadw’r rhan hon o’r Stryd Fawr ar gau i draffig am nifer o wythnosau,” meddai Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi effaith y sefyllfa yma ar breswylwyr lleol, masnachwyr a siopwyr, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith mor gyflym a diogel â phosib.”