A hithau yn ‘Ionawr Sych’ – Dry January – pan mae pobol yn ceisio mynd heb y ddiod gadarn am fis ar ddechrau’r flwyddyn newydd, mae actores amlwg yn gofyn a ydy perthynas y Cymry gydag alcohol yn un iach.

Mae Ffion Dafis wedi ffilmio rhaglen ddogfen er mwyn ceisio sbarduno sgwrs agored am alcohol.

“Dw i wedi cael fy nghyflyru ers oeddwn i’n ifanc iawn i feddwl bod yfed alcohol yn rhan o fwynhau, a dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sy’n rhan ohonom ni yma yng Nghymru,” meddai Ffion Dafis ar drothwy dangos y rhaglen.

“Dw i wedi trio cael cyfnodau sobor dros y blynyddoedd a dw i wedi gwneud misoedd, dw i wedi gwneud wyth mis, tri mis, pedwar mis, ond mae yna rywbeth wastad sydd wedi fy nenu nôl.”

“Dydy’r Cymry Cymraeg ddim yn gallu eithrio’u hunain o broblemau dibyniaeth”

Hefyd ar y rhaglen DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall? mi fydd y cyfarwyddwr theatr Iola Ynyr yn trafod ei phrofiad o fod yn alcoholig.

“Y munud wnes i gyfaddef fy mod i’n alcoholig, mi wnaeth pethau wella drwyddi draw,” meddai Iola Ynyr.

“Ond mi oedd y siwrne o wynebu hynny yn anodd. Beth sydd rhaid sylweddoli ydi mae dibyniaeth o unrhyw fath, ‘sgynno fo ddim parch at ryw na dosbarth cymdeithasol na iaith na diwylliant.

“Mae o’n ymosod ar bawb ac mae o’n rhan o bob dosbarth cymdeithasol. Dydy’r Cymry Cymraeg ddim yn gallu eithrio’u hunain o broblemau dibyniaeth. Mae cywilydd yn chwarae rhan amlwg iawn, ac mae hynny’n beth niweidiol. Mae angen chwalu label. Dw i’n fwy na label.”

Canwr yn y carchar

Hefyd ar y rhaglen bydd Brychan Llŷr, y cerddor a chyflwynydd teledu a fu bron â cholli ei fywyd o ganlyniad i alcoholiaeth.

Mae canwr y grŵp Jess yn datgelu ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar ychydig dros flwyddyn yn ôl, wedi iddo gael ei ddal yn yfed a gyrru. Mae bellach wedi rhoi’r gorau i yfed ac yn rhybuddio pobl o beryglon alcohol.

DRYCH: Ffion Dafis – Un Bach Arall? ar S4C nos Sul, Ionawr 19