Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal ei ymweliad busnes cyntaf yng Nghymru yn ddiweddarach ddydd Gwener (Ionawr 10).

Yn ystod ei ymweliad â Chaerdydd mae disgwyl i Simon Hart gymryd rhan mewn lansiad adeilad yn y Sgwâr Canolog.

Fe fydd Tŷ William Morgan yn agor ddiwedd y flwyddyn, a bydd 4,000 o weision sifil yn gweithio yno.

Mae enw’r adeilad yn gyfeiriad at yr Esgob William Morgan a oedd wedi cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588.

“Ymrwymiad” i Gymru

“Mae’r buddsoddiad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Gymru ac i gryfhau’r Undeb,” meddai Simon Hart.

“Yn ogystal â hyn, [mae’n dangos ymrwymiad i] gynyddu gallu’r gwasanaeth sifil y tu allan i Lundain.

“Mae’r digwyddiad heddiw yn garreg filltir gyffrous yn y gwaith o adeiladu Tŷ William Morgan – William Morgan House a fydd yn darparu awyrgylch weithio modern a hyblyg yng nghanol Caerdydd i filoedd o’n gweision sifil.”