Dylai cyfyngiadau gael eu rhoi ar ddefnydd ffonau talu wrth fynd [pay as you go] er mwyn hwyluso’r gwaith o rwystro gangiau cyffuriau.
Dyna gasgliad adroddiad newydd sydd yn ceisio cynnig atebion i broblem y gangiau county lines – gangiau dinesig sydd yn dosbarthu cyffuriau i drefi llai.
Yn aml mae’r gangiau yma yn defnyddio ffonau i drefnu gwerthu cyffuriau, a thrwy ddefnyddio teclynnau ‘pay as you go’ mae modd iddyn nhw aros yn anhysbys.
Yn ôl Arolygiaeth Heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub ei Mawrhydi (HMICFRS) dylai bod yn rhaid i bobol gofnodi manylion personol wrth brynu’r fath ffonau.
“Lle am ddadl ehangach”
“Mae swyddogion yn gorfod cynnal ymchwiliadau hir er mwyn ceisio profi pwy oedd â ffôn,” meddai’r arolygwr HMICFRS a fu ynghlwm â’r adroddiad, Mark Powell.
“Ond yn amlwg mae yna le am ddadl ehangach.
“Dydyn ni ddim am dynnu’r hawl i fod yn anhysbys oddi wrth bawb. Ond rydym yn credu bod angen adolygu’r camddefnydd troseddol o ffonau symudol.”
Pryderon eraill
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu mai disgyblion sydd wedi eu gwahardd o’u hysgolion sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu gan y gangiau cyffuriau.
Ac mae’r ddogfen yn codi pryderon ynghylch sut mae’r heddlu yn trin pobol fregus sydd wedi cael eu targedu gan yr heddlu.
Mae llefarydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod yn buddsoddi £20 miliwn yn rhagor i fynd i’r afael â county lines.