Mae sefyllfa Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “yn parhau i fod yn heriol” ar ôl iddyn nhw orfod canslo llawdriniaethau am y trydydd diwrnod yn olynol.

Dywed y bwrdd iechyd y bu’n rhaid canslo llawdriniaethau yn ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg “er lles diogelwch y cyhoedd”.

Ond dydy llawdriniaethau brys, triniaethau dydd nac apwyntiadau cleifion allanol ddim wedi cael eu heffeithio.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod nhw wedi canslo llawdriniaethau “yn unol â’n gweithdrefnau uwch-gyfeirio”, a hynny “er mwyn helpu llif cleifion a chynnal diogelwch cleifion yn ystod adegau o bwysau enfawr”.

Maen nhw hefyd yn dweud iddyn nhw roi gwybod i’r cleifion sydd wedi cael eu heffeithio, ac y dylai pawb arall fynd i’w hapwyntiadau fel arfer.

Maen nhw’n rhybuddio na ddylid cysylltu â thimau apwyntiadau na chleifion allanol “oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol”.

Ymddiheuriad

“Er bod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol, rydym wrthi’n asesu ein cynlluniau gweithredu ar gyfer y diwrnodau nesaf ac, yn unol â’r trefniadau arferol, byddwn yn eu hadolygu bob dydd,” meddai llefarydd.

“Byddwn yn cyhoeddi diweddariad pan fydd cyfran fawr o’r llawdriniaethau a drefnwyd o flaen llaw yn ail-ddechrau. 

“Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i’r cleifion hynny y mae eu llawdriniaethau wedi’u hohirio neu sydd wedi gorfod aros yn hirach nag arfer ar gyfer llawdriniaeth.”