Mae John Allen, cyn-berchennog cartref gofal yn y gogledd, wedi cael ei ddedfrydu eto i 14 blynedd a hanner o garchar am gamdrin plant yn rhywiol.

Mae eisoes wedi’i garcharu am oes, ac mae’r ddedfryd newydd wedi’i hychwanegu yn sgil troseddau a gafodd eu cyflawni dros 40 mlynedd yn ôl.

Cafwyd y dyn 78 oed, sy’n byw yn Suffolk erbyn hyn, yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o saith achos o ymosod yn anweddus ac un achos o geisio cam-drin yn rhywiol.

Cafwyd e’n ddieuog o gyhuddiadau pellach yn erbyn tri bachgen.

Fel rhan o’r un ymchwiliad, cafodd ei ddedfrydu i 33 o droseddau eraill yn Rhagfyr 2014.

Fe ddigwyddodd yr holl droseddau mewn cartrefi gofal, ceir, swyddfeydd, gwestai ac ystafell snwcer yn ei gartref yn y gogledd ac yn Llundain.

Roedd y pum bachgen rhwng 12 ac 16 oed pan gawson nhw eu camdrin gyntaf, ac fe fyddai John Allen yn rhoi arian ac anrhegion iddyn nhw ar ôl pob ymosodiad.

Dywedodd un o’r bechgyn y byddai’n aml yn cuddio rhagddo ac y byddai John Allen yn ceisio dod o hyd iddo o dan seddi fan gweithiwr a fyddai’n ceisio ei warchod rhagddo.

Dywedodd un arall fod John Allen wedi rhentu fflat ar ei ran ac y byddai’n ymweld â fe er mwyn ymosod arno.