Mae merch 15 oed wedi cyfaddef iddi ymosod ar y gantores opera Katherine Jenkins ac wedi dweud ei bod hi’n fodlon ymddiheuro wrthi.

Digwyddodd yr ymosodiad ar y Kings Road yn Chelsea, fis diwethaf a chafodd ffon Katherine Jenkins, iPhone gwerth £500, ei ddwyn.

Roedd Katherine Jenkins, sy’n dod o Gastell-nedd yn wreiddiol, wedi ymyrryd ar ôl gweld dynes arall yn cael ei mygio, pan gafodd ei ffon hithau ei ddwyn. Cafodd ei helpu gan aelodau o’r cyhoedd cyn i’r heddlu gyrraedd.

Roedd y gantores ar ei ffordd i ymarfer ar gyfer cyngerdd carolau elusen Henry van Straubenzee ar ddiwrnod y digwyddiad (Rhagfyr 4).

Mae’r ferch, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, hefyd wedi cyfaddef iddi ymosod ar heddwas.

Penderfynodd y barnwr, Susan Williams fod yn rhaid i’r ferch fynychu panel troseddwyr ifanc am chwe mis, a chafodd mam y ferch orchymyn i dalu £20 o iawndal.

Dywedodd y ferch y byddai’n fodlon ymddiheuro wrth Katherine Jenkins, un ai mewn llythyr neu wyneb yn wyneb.

Yn ôl ei chyfreithwraig, Sabrina Fitzgerald, roedd y ferch wedi dwyn y ffon am ei bod yn credu ei bod hi’n cael ei ffilmio.

Nid oedd Katherine Jenkins yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.