Mae Archesgob Cymru, John Davies wedi galw am “bwyll a doethineb” wrth i densiynau rhwng Iran a’r Unol Daleithiau gynyddu.

Daw hyn yn dilyn yr ymosodiad gan luoedd yr Unol Daleithiau yn Baghdad ddydd Gwener (Ionawr 3) pan gafodd arweinydd ymgyrchoedd milwrol Iran ei ladd.

Mae’r ymosodiad ar y Cadfridog Qassem Soleimani wedi cynyddu’r tensiynau yn y rhanbarth gan arwain at wrthdaro pellach rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran a pheryglu lluoedd yr Unol Daleithiau yn Irac, Syria a thu hwnt.

“Heb ymgynghoriad”

Dywedodd yr Archesgob mewn datganiad: “Mae’r weithred ddiweddar gan yr Unol Daleithiau wedi ei gymryd, mae’n ymddangos, heb unrhyw ymgynghoriad gyda’i chynghreiriaid agosaf, ac mae wedi cynyddu lefel y perygl yn sylweddol, ac mae’r ymateb wedi dechrau.”

Ychwanegodd ei fod yn “briodol” bod arweinwyr gwledydd y byd “sydd â chalon dda a meddyliau pwyllog” yn cynghori pwyll a doethineb. Mae e hefyd wedi annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymdrechu’n galed i annog pwyll wrth fynd i’r afael a’r mater.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson, Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, hefyd wedi rhyddhau datganiad yn galw am bwyllo tros Iran.

Mae’r tri arweinydd yn dweud bod angen i’r trais yn Irac ddod i ben – “mae argyfwng arall yn bygwth blynyddoedd o ymdrech i geisio sefydlogi Irac.”

Gweddïau yn Tehran

Yn y cyfamser mae miloedd wedi ymgynnull yn Tehran i anrhydeddu’r Cadfridog Qassem Soleimani, gydag arweinydd Iran, yr Ayatollah Ali Khamenei, yn arwain gweddïau.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi ychwanegu at y tensiynau drwy fygwth sancsiynau llym ar Irac os yw’n anfon lluoedd yr Unol Daleithiau o’r wlad.