Mae Bethan Sayed, aelod cynulliad Plaid Cymru, yn dweud bod penaethiaid cwmni Tata yn “creu gofid ymysg y gweithwyr” wrth gyhoeddi cyfres o ddatganiadau am ddyfodol y safle.

Daw ei sylwadau wrth iddi ymateb i’r rhybudd gan un o benaethiaid Tata i weithwyr dur Port Talbot na all y cwmni barhau i ddioddef colledion sylweddol.

Mae’r safle’n wynebu cryn bwysau ac ansicrwydd yn sgil argyfwng yn y diwydiant o ganlyniad i ddiffyg galw, cystadleuaeth o dramor a chostau uchel.

Wrth siarad â golwg360, dywed yr aelod cynulliad y “byddai pawb yn cytuno bod angen i Bort Talbot fod yn gryf” ac yn “safle hyfyw sy’n gwneud arian”, sef “yn union gytunwyd rhwng y gweithlu, yr undebau a’r rheolwyr pan wnaethant aberthu swyddi yn y diwydiant dur yn 2016/17 yng Nghymru”.

“Wrth gwrs, rwy’n cytuno â’r egwyddor bod angen i Tata Ewrop weithio i sicrhau bod ei weithrediadau’n datblygu i’r dyfodol,” meddai.

“Mae gan bob un ohonom ddiddordeb mewn gweld hynny.”

Ond mae’n dweud ei bod hi’n “pryderu” am y ffordd mae penaethiaid Tata yn gwneud datgniadau am y sefyllfa.

“Rwyf hefyd yn pryderu am y modd y mae Tata wedi ymdrin â’r cyhoeddiadau cwtogi swyddi yn ddiweddar.

“Mae gwneud cyfres o ddatganiadau heb fawr o fanylder i’r wasg wedi creu gofid ymysg y gweithwyr.

“Nid yw hyn yn deg arnynt.”

‘Port Talbot llwyddiannus’

Mae’n dweud mai sicrhau “Port Talbot llwyddiannus yw ein ffocws ym Mhlaid Cymru erioed”.

“Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Tata i sicrhau bod Tata yn derbyn cefnogaeth sylweddol i helpu’r diwydiant penodol yma.

“Rhaid i bob elfen o Tata weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y dyfodol yn hyfyw ac yn gynhyrchiol.”