Mae plant Caernarfon yn destun gorchymyn gwasgaru am 48 awr dros y penwythnos, yn ôl Heddlu’r Gogledd.

Daeth y gorchymyn i rym neithiwr (nos Wener, Ionawr 3), ac fe fydd yn para tan nos yfory (nos Sul, Ionawr 5).

Mae gorchymyn o’r fath yn rhoi’r hawl i’r heddlu symud pobol o ardal benodol os ydyn nhw wedi’u hamau o gyflawni trosedd.

“Rieni Caernarfon – ydych chi’n gwybod ble mae eich plant heno?” meddai neges yr heddlu.

“Gorchymyn gwasgaru yn ei le ar gyfer Caernarfon heno am 48 awr tan nos Sul i dargedu grwpiau o bobol ifanc sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol annerbyniol yn y dref.

“Helpwch ni i warchod trigolion lleol.”