Mae nifer y myfyrwyr sy’n cefnu ar eu hastudiaethau wedi cynyddu yn dros hanner prifysgolion Cymru.

Mae astudiaeth gan asiantaeth newyddion PA (Cymdeithas y Wasg) yn dangos bod y ganran wedi cynyddu mewn pum prifysgol Gymreig.

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yw’r unig sefydliad Cymreig – a fu’n rhan o’r astudiaeth – sydd wedi profi cwymp yn y ganran (-1.1%).

Er bod yna wyth prifysgol yng Nghymru doedd dau ddim yn rhan o’r gwaith ymchwil, sef Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r prifysgolion yma ddarparu eu ffigurau hwythau.

Newid yn y ganran

Mae ffigurau isod yn dangos y newid yn y gyfradd cefnu ar astudiaethau (dropout rate) rhwng 2011/12 a 2016/17.

  • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: -1.1
  • Prifysgol Aberystwyth: 0.5
  • Prifysgol Abertawe: 0.8
  • Prifysgol Caerdydd: 0.9
  • Prifysgol Bangor: 1.4
  • Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: 2.1

Ffigurau Prydeinig

Roedd 100 prifysgol Brydeinig yn rhan o’r astudiaeth ac o’r rheiny roedd 67% wedi gweld cynnydd yng nghyfraddau ‘cefnu ar raddau’.

Disgynnodd y ganran mewn 31% o sefydliadau, ac arhosodd y ganran yn union yr un peth mewn pedwar sefydliad.

O bob prifysgol a oedd yn rhan o’r astudiaeth prifysgol Abertay, yn Dundee, wnaeth brofi’r cynnydd uchaf – sef 8.6%.

Problem yn parhau

“Mae prifysgolion wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn medru profi addysg uwch, ac yn medru llwyddo a chymryd camau ymlaen,” meddai llefarydd ar ran grŵp Universities UK.

“Er hynny, mae’n glir bod cefnu ar raddau yn parhau’n broblem, ac mae’n rhaid i sefydliadau barhau â’u gwaith o gefnogi myfyrwyr i gymryd camau ymlaen a llwyddo yn y brifysgol.”