Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu buddsoddi £3.3m er mwyn mynd i’r afael â thlodi mislif.

Bydd £3.1 miliwn yn cael ei ddarparu rhwng pob ysgol a choleg yng Nghymru er mwyn rhwystro tlodi mislif.

A bydd £220,000 ar gael i gynghorau er mwyn iddyn nhw allu rhoi cynnyrch mislif mewn llyfrgelloedd a hybiau yn y gymuned i ferched na all eu fforddio.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £2.3m er mwyn mynd i’r afael â thlodi mislif yn 2019.

“Urddas”

“Dim ond sicrhau nad yw mislif merch yn ei hatal hi rhag llwyddo mewn bywyd yw hyn,” meddai aelod o’r Cyngor Ieuenctid sydd wedi bod yn gweithio ar ymgyrch tlodi mislif yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Amber Treharne, 16 oed,: “Fe gawsom ni i gyd sioc mewn gwirionedd o ddeall bod merched ifanc yn y sir yn colli addysg ac nad oedd 1 o bob 10 merch 14 i 21 oed yn y DU yn gallu fforddio cynhyrchion mislif, felly fel cyngor ieuenctid fe wnaethon ni benderfynu sefydlu ymgyrch tlodi mislif.

“Ym mhob ysgol rydyn ni wedi bod yn dosbarthu bocsys gyda phecynnau am ddim o dampons a thyweli mislif y gall merched ifanc eu defnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol.

“Nod ein gwaith ni yw codi ymwybyddiaeth a hybu’r neges nad yw’n iawn i chi orfod colli eich addysg neu golli’r gwaith am nad oes gennych chi gynhyrchion mislif digonol. Sicrhau nad yw mislif merch yn ei hatal hi rhag llwyddo mewn bywyd yw’r nod.”

Mae’r Cyngor Ieuenctid wedi uno gyda’r Body Shop leol yng nghanol tref Caerfyrddin i sicrhau bod merched yn gallu cael cynhyrchion mislif am ddim bob dydd, nid dim ond pan maen nhw yn yr ysgol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a prif chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt: “Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda mynd i’r afael â thlodi mislif yn 2019 a bydd y cyhoeddiad yma am £3.1m o gyllid ar gyfer 2020-21 yn golygu y gallwn ni barhau i sicrhau urddas y mislif i bob menyw a merch yng Nghymru drwy ddarparu cynhyrchion a chyfleusterau priodol.”