Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enwau’r ddau berson y cafwyd hyd i’w cyrff mewn tŷ yn Llanelli nos Sul, Rhagfyr 29.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn Lakefield Place am 8.30yh nos Sul lle daethon nhw o hyd i Gary Williams, 58 oed, o Dre-gwyr, a Jessena Sheridan, 46, o Lanelli.

Dywed yr heddlu na fydd eu hymchwiliad yn arwain at erlyn unrhyw un ac mae’r mater wedi cael ei gyfeirio at y crwner.

Mae disgwyl i’r crwner agor cwest i’w marwolaethau ddydd Gwener, Ionawr 3,