Mae dynes wedi cael ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a thacsi yn y Drenewydd neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 31).

Fe ddigwyddodd ger goleuadau traffig toc ar ôl 10.30 pan darodd Vauxhall Corsa glas yn erbyn tacsi Volkswagen Passat.

Cafodd gyrrwr y Vauxhall Corsa anafiadau difrifol i’w phen, ac mae hi mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.