Mae dyn 64 oed wedi marw ar ôl i gar a lori daro yn erbyn ei gilydd ar yr A55 yn ardal Caergeiliog neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 31).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Mokka lliw du a lori am 11.53yh wrth i’r ddau gerbyd deithio i gyfeiriad y dwyrain.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed sut oedd y car yn cael ei yrru cyn y  ddamwsin.