Bu farw’r bardd, y talyrnwr a’r cyn-ddreifar lori olew, Dai Rees Davies.

Roedd wedi bod yn ymladd lwcemia ers yr haf.

Roedd yn byw yn Rhydlewis gyda’i wraig Vera, ac yn gyn-ysgrifennydd eisteddfod gadeiriol y pentref.

Fe enillodd ef ei hun wobrau lu mewn gwyliau lleol, taleithiol ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yn aelod o dim cystadleuol Ffostrasol gydag Emyr Davies,  Gareth Ioan a Iolo Jones.

Y tro diwethaf iddo ymryson gyda nhw oedd yn nigwyddiad blynyddol Gŵyl Fawr Aberteifi yn y Castell ddechrau Mehefin, pan ddaethon nhw’n fuddugol.

Roedd Dai Rees Davies yn feistr ar delynegion a chywyddau teimladwy, yn ogystal ag ar greu caneuon digri.