Mae cannoedd o bobol wedi bod yn nofio yn y môr ym Mhorthcawl fore Nadolig – gyda miloedd yn rhagor yn eu gwylio.

Y digwyddiad ym Mro Morgannwg yw un o’r rhai mwya’ o’I fath ac mae’n un o ddigwyddiadau traddpodiadol y Nadolig.

Gyda’r tywydd yn braf, y disgwyl oedd y byddai tua 1,200 yn mentro i’r dŵr a 5,000 yn dod yno i’w gweld.

Roedd digwyddiadau tebyg mewn mannau eraill yng nglwedydd Prydain heddiw, gan gynnwys nofio cyhoeddus yn y Serpentine yn Llundain.

Codi arian

Mae’r digwyddiad ym Mhorthcawl yn codi arian at Gymdeithas Alzheimer Cymru ar roedd yna thema arbennig … dwyn i gof.

Y disgwyl oedd y byddai tymheredd y môr tua 7 gradd ac y byddai’r llanw ar ei isa’ pan fentrodd y nofwyr cynta’ i’r dŵr am 11.45.

Y llynedd, fe gododd y digwyddiad 17,000 o bunnoedd.