Mae Heddlu’r De yn dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i ddyn 19 oed oedd wedi bod ar goll ar ôl noson allan yn Abertawe.

Nid oedd Taylor Harvey o’r Pil ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei weld ers iddo fod yn dathlu ei ben-blwydd yn Abertawe ddydd Sul, Rhagfyr 22.

Ond dywedodd yr heddlu heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 23) eu bod nhw wedi dod o hyd iddo’n ddiogel.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth i geisio dod o hyd iddo.