Mae Cadeirydd un o ganghennau Plaid Cymru yng Nghaerdydd wedi camu o’r neilltu, gan gyhuddo’r blaid o ddangos “rhagfarn ddifrifol”.

Mewn llythyr at aelodau, mae Jonathan Swan, Cadeirydd Etholaeth Gorllewin Caerdydd, yn cyhuddo’r Blaid o drin rhai aelodau yn “fwy cydradd nag eraill”.

Mae hefyd yn cyfeirio at driniaeth Neil McEvoy, yr Aelod Cynulliad a gafodd ei wahardd o Blaid Cymru am dorri ei rheolau sefydlog, ac a fu’n ymgeisydd tros yr etholaeth yn 2017.

Yn ogystal â lladd ar y Blaid, mae’r cyn-Gadeirydd yn dweud y bydd yn “torri pob cysylltiad” â nhw, a’i fod yn mynd i gyfrannu at greu plaid newydd.

“Mae’n bryd i blaid newydd ymddangos,” meddai. “Plaid a all gynrychioli Cymru gyfan, a bydda i’n ymrwymo fy holl amser o hyn ymlaen yn sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Mae gan Neil McEvoy gysylltiadau cryf â’r gangen, ac mae peth dyfalu ei fod yntau am sefydlu plaid.

“Plaid sydd wedi ei chyfyngu…”

“Dim ond gweddillion y blaid sydd ar ôl,” meddai Jonathan Swan yn ei lythyr ta-ta.

“Plaid sydd wedi’i chyfyngu i’r ardaloedd Cymraeg traddodiadol, ond yn hapus i gadw Llafur mewn grym yn y Senedd.

“Dw i eisiau curo Llafur a rhoi diwedd ar eu dau ddegawd o rym yng Nghymru. Ac yr unig ffordd o wneud hynny yw trwy ennill de Cymru, gan gynnwys ein prifddinas.

“Mae wedi dod yn glir na fydd Plaid byth yn troi’n blaid a fydd yn gallu curo llafur yma. Roedd gennym gyfleoedd yng Ngorllewin Caerdydd, Blaenau Gwent a Llanelli.

“Ond ym mhob un o’r rhain gwnaeth arweinyddiaeth y blaid ymyrryd gan achosi holltau ac ymddiswyddiadau.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.