Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wedi marwolaeth sydyn dyn 52 oed o Geredigion.

Fe gafodd corff Clive Roberts, o bentref Llanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan, ei ddarganfod ar Draeth y Gogledd, Aberaeron ddydd Gwener diwethaf (Rhagfyr 13). Ar hyn o bryd, mae amgylchiadau ei farwolaeth yn parhau’n ddirgelwch.

Roedd yn gwisgo ei siaced lachar tra’n gweithio yn nhref Aberaeron.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un a welodd Clive Roberts yn ystod bore dydd Gwener diwethaf, i gysylltu â nhw.