Gwerthwr llyfrau ar-lein The Book People wedi llithro i ddwylo’r gweinyddwyr, gan roi bron i 400 o swyddi mewn perygl cyn y Nadolig.

Mae’r cwmni’n gweithredu o’i brif swyddfa yn Surrey ond mae’r dosbarthu’n cael ei wneud o warws 92,000 troedfedd sgwâr ym Mangor.

Mae’r The Book People wedi penodi gweinyddwyr heddiw er mwyn edrych am brynwr i’r cwmni ond dydyn nhw ddim yn disgwyl toriadau staff yn syth bin.

Bydd y cwmni hefyd yn cwblhau pob archeb sydd wedi cael ei wneud ar gyfer y Nadolig.

Mae The Book People, a gafodd ei sefydlu yn 1988, gyda throsiant blynyddol o fwy na £50 miliw