Wnaeth 52% o etholwyr yng Nghymru ddim pleidleisio dros yr aelod seneddol sydd bellach yn eu cynrychioli nhw, yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

Mae hynny’n cyfateb i 806,116 o bleidleisiau sy’n cael eu galw’n bleidleisiau “heb gynrychiolaeth”.

Mae hynny’n sylweddol uwch na’r 45% sy’n cael ei gynnig fel ffigwr ledled gwledydd Prydain.

Dywed y Gymdeithas fod y Ceidwadwyr wedi ennill mwyafrif sylweddol gyda dim ond lleiafrif o bleidleisiau, er i’w siâr o seddi godi 7.4 pwynt i 56%.

Cwympodd siâr Llafur o’r bleidlais 7.9 pwynt, tra bod eu siâr o seddi wedi gostwng 9.2 pwynt.

Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 11.5% o’r bleidlais, ond dim ond 1.7% o seddi.

‘Rhywbeth mawr o’i le’

“Pan fo miliynau o bleidleiswyr heb gynrychiolaeth o gwbl, mae rhywbeth mawr wedi mynd o’i le,” meddai Darren Hughes, prif weithredwr y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

“Mae’r canlyniadau gwyrdroedig hyn wedi’u hoelio’n gadarn fel rhan o system San Steffan lle mai’r enillydd yw popeth.

“Y realiti go iawn yw na wnaeth y mwyafrif o bobol pleidleisio dros eu haelod seneddol.

“Nid yn unig y mae sytem etholiadol San Steffan wedi torri, ond mae’n fethdal.

“Mae gwleidyddiaeth ‘y cyntaf i’r felin’ wedi gyrru ceffyl a chart drwy’r ymdrechion i gynnal sgwrs, cyfaddawd a chydweithredu.

“Allwn ni ddim parhau fel hyn.

“Mae cyntaf i’r felin yn gorfodi pobol i ddal eu trwynau ym mhob etholiad.”