Mae Ben Lake wedi cael ei enwi gan y BBC fel un o’r aelodau seneddol i’w gwylio yn y cyfnod seneddol nesaf ac yn “arweinydd y dyfodol”.

Mae’r erthygl yn sôn am ddeg aelod seneddol sy’n debygol o fod yn ddylanwadol heb eu bod nhw’n “ceisio cyrraedd y brif swydd”.

Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion yw’r unig aelod seneddol o Gymru i gyrraedd y rhestr o ddeg.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn “smart, hawddgar a rhugl mewn dwy iaith”.

Mae’n sôn am ei lwyddiant wrth gipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2017 a’i chadw hi’r tro hwn gyda 15,208 o bleidleisiau, gan gynyddu mwyafrif ei blaid.

Mae hefyd yn sôn am ei araith gyntaf yn San Steffan ddwy flynedd yn ôl pan gyfeiriodd e at golli pobol ifanc o gymunedau cefn gwlad Cymru i geisio cyfleoedd mewn ardaloedd mwy poblog.

Mae’r darn yn gorffen drwy ofyn “Arweinydd y dyfodol?”

Y rhai eraill ar y rhestr yw Eleanor Laing (Ceidwadwyr), Tom Tugendhat (Ceidwadwyr), Rachel Reeves (Llafur), Johnny Mercer (Ceidwadwyr), Mel Stride (Ceidwadwyr), Dan Jarvis (Llafur), Bim Afolami (Ceidwadwyr), Alyn Smith (SNP) a Wendy Chamberlain (Democratiaid Rhyddfrydol).

Gwyliwch araith gyntaf Ben Lake yn San Steffan yn 2017 yma: