Mae mwy na 30 o deithiau trên wedi cael eu canslo yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 14) yn sgil prinder staff.

Mae’n effeithio fwyaf ar deithiau heno i mewn ac allan o Gaerdydd, Abertawe a’r gogledd.

Mae teithiau eraill yn dod i ben yn gynnar neu’n stopio mewn gorsafoedd gwahanol i’r arfer, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Bydd bws yn lle trên ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi cael eu heffeithio.

‘Hwb sylweddol’ yn y pen draw

Mae cwmni Network Rail Cymru a’r Gororau wedi amddiffyn y newidiadau.

“Mae yna newidiadau ar draws y rhwydwaith y mae angen i deithwyr fod yn barod ar eu cyfer, gan gynnwys gwasanaethau Sul newydd ar rai llinellau nad ydyn nhw wedi cael gwasanaeth Sul o’r blaen,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Bydd yr holl newidiadau i’r amserlen yn rhoi hwb sylweddol i deithwyr a’r economi ledled de Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid, Trafnidiaeth Cymru a Great Western Railways, i annog teithwyr i gynllunio ymlaen llaw.”